BIL LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU)

Tystiolaeth a gyflwynir gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

1.      Cyflwynir y sylwadau isod i’w hystyried gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2019.

Yr amgylchiadau pryd y dylid cynnal ymchwiliad

2.      Dan y ddeddfwriaeth bresennol bydd unrhyw gynnig i newid gorchmynion cyfunol yr awdurdodau tân ac achub yn ddarostyngedig i  ymchwiliad, ac eithrio dan amgylchiadau penodol (gan gynnwys cynigion er diogelwch y cyhoedd).  

3.      Byddai’r bil yn diwygio Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 sydd yn golygu y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghymru dim ond yn achos cynnig i newid yr ardal ddaearyddol y mae’r gorchymyn cyfunol yn ymdrin â hi neu ddiddymu’r gorchymyn cyfunol.

4.      Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cyflwyno’r farn bod “y gofyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i unrhyw newidiadau i'r gorchmynion cyfunol yn llyncu amser ac yn rhwystrol. Ar ben hynny, nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol mewn perthynas â chyrff llywodraeth leol eraill”.

5.      Rydym ni o’r farn bod y rhesymeg yma’n gul iawn. Dydi’r ffaith bod rhywbeth yn llyncu amser ddim o reidrwydd yn golygu ei fod yn rhwystrol. Hefyd, o dan y trefniadau presennol, nid oes rhaid cynnal ymchwiliad os ydi’r awdurdod tân ac achub cyfunol a’r cynghorau sir yn yr ardal yn cytuno i’r newid.  Felly nid yw’n gywir awgrymu bod y gofyniad hwn yn gyfyngedig i’r awdurdodau tân ac achub yn unig.

6.      Er ein bod ni’n cydnabod y byddai’n gyfleus iawn peidio â gorfod cynnal ymchwiliad ac eithrio dan amgylchiadau penodol iawn, rydym ni’n poeni bod y cynnig yn mynd yn rhy bell.   Mae’r syniad na fyddai newidiadau, er enghraifft,  i drefniadau llywodraethu neu ariannu’r awdurdodau tân (sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd) yn cael effaith uniongyrchol ar ddiogelwch y cyhoedd neu ddiffoddwyr tân yn anghywir. Rydym ni’n awgrymu bod rhoi hwylustod o flaen yr amddiffyniad y mae’r gofyniad i gynnal ymchwiliad yng Nghymun yn ei gynnig yn  gam yn ôl, ac nad ydi hynny heb rywfaint o risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân.

7.      I’r perwyl hwn, rydym ni’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n ystyried y cynnig hwn ymhellach i wneud yn siŵr bod yr amgylchiadau a fyddai’n ddarostyngedig i ymchwiliad yn ddigon eang yng nghyd-destun y gwasanaeth brys.


 

Perfformiad a llywodraethu awdurdodau tân ac achub

8.      Rydym ni’n croesawu diddymu gofynion perfformiad Mesur Llywodraeth Leol 2009 a chyflwyno fframwaith rheoli perfformiad pwrpasol ar gyfer awdurdodau tân ac achub. Rydym ni hefyd yn cydnabod hwylustod alinio’r trefniadau rheoli perfformiad yn agosach at y Fframwaith Genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub.

9.      Wedi dweud hynny, mae lefel y manylder yn adran 163 o’r Bil o bosib yn rhy benodol fel ac y mae ar hyn o bryd.  Er enghraifft ni fyddai’r gofyniad penodol i  nodi “sut mae’r awdurdod yn bwriadu asesu ei berfformiad” yn berthnasol, o reidrwydd, yn achos camau sydd yn yr arfaeth neu wrth gyflwyno newidiadau.

10.  Rydym ni felly’n awgrymu adolygu’r adran hon i sicrhau bod y cynnwys yn ddigon strategol i hwyluso a gwrthsefyll gwahaniaethau a newidiadau  sydd yn digwydd, yn anochel, dros amser.

Cyffredinol

11.  Rydym ni’n croesawu cydnabod y gwahaniaethau rhwng gwahanol gyrff cyhoeddus wrth lunio’r rheoliadau - er enghraifft, mewn perthynas â darlledu cyfarfodydd yn electronig, byddai’r awdurdodau tân ac achub yn ddarostyngedig i brosesau rheoleiddio gwahanol i’r prif gynghorau. Rydym ni o’r farn bod hwn yn ddull synhwyrol a phragmataidd.